Beatrice Carney (BBC NoW), Evan Dawson (NYAW) and Laurence Collier (Siglo Section) in a panel discussion

Cafodd ail Fforwm Agored Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ei gynnal yn YMa ym Mhontypridd ar 28 Chwefror 2024. Gofod i drafod addysg gerddoriaeth ydy’r Fforwm Agored a gafodd ei greu gan Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Fforwm Partneriaeth Cerdd Cymru, yn ogystal a rhoi cyfle i rwydweithio a rhannu syniadau. Thema’r cyfarfod hwn oedd Partneriaeth.

Logo Fforwm Agored

Mae Fforwm Agored Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru yn ofod i drafod y datblygiadau diweddaraf yn maes addysg gerdd

YMa, Pontypridd

Cafodd ein Fforwm Agored ei gynnal yng nghanolfan YMa, Pontypridd ym mis Chwefror 2024

Dechreuodd Nick Evans, Rheolwr Cyfleusterau a Chymuned YMa y cyfarfod gyda hanes yr adeilad a siaradodd am y bartneriaeth rhwng Cymuned Artis ac YMCA Pontypridd a arweiniodd at greu YMCA.

Tra’n diweddaru y mynychwyr ar waith y Cynllun Cenedlaethol ar Addysg Gerddoriaeth, eglurodd Mari Pritchard o Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru bod dros 1,000 o ysgolion bellach wedi’u cofrestru ar Charanga Cymru – y platfform addysg gerddoriaeth ar-lein sydd ar gael i bob ysgol drwy eu gwasanaeth cerdd lleol. Siaradodd hefyd am gwrs newydd a grëwyd mewn partneriaeth â Music Masters, sy’n edrych ar arfer gorau er mwyn sicrhau cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Amlinellodd Mari hefyd bwrpas, a chynnydd hyd yma, cyfarfodydd gyda phartneriaid cenedlaethol, a’r broses o sefydlu partneriaethau rhanbarthol.

Partneriaethau rhanbarthol

Rhoddodd Emma Archer, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cerdd CF a Chadeirydd Partneriaeth Ranbarthol y De-ddwyrain, drosolwg o’r gwaith sy’n digwydd ar draws partneriaeth y De-ddwyrain, sy’n cwmpasu 10 awdurdod lleol. Mae’r rhaglen waith Profiadau Cyntaf bellach yn cyrraedd ystod eang o ysgolion, ac mae’r Gwasanaethau Cerdd gwahanol yn gweithio mewn partneriaeth a nifer o gerddorion a sefydliadau cerddoriaeth i ddarparu profiadau gwahanol – gan gynnwys ‘DJ am ddiwrnod’, y ‘Meddyg Cyfansoddi Caneuon’, band mawr gyda Siglo Section, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a llinynnau gyda Sefydliad Benedetti. Dangoswyd ffilm i’r mynychwyr o brosiect ochr yn ochr rhwng Cerddorfa Ieuenctid CF ac Opera Cenedlaethol Cymru – enghraifft wych arall o bartneriaeth.

Clywodd y Fforwm hefyd am Gôr Rhanbarthol y De-ddwyrain, a ffurfiwyd i gynnig cyfle i blant a phobl ifanc sy’n byw yn ardaloedd Caerdydd, Caerffili, RhCT a Chasnewydd i ddod at ei gilydd. Dywedodd Andrew Mantle, Gwasanaeth Cerdd Caerffili, wrth y cynrychiolwyr fod y bartneriaeth wedi canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau ariannol, drwy ddarparu cludiant a chynnig llefydd i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. Cafodd cwrs ei gynnal yng Nghaerdydd yn yr hydref, a arweiniodd at gyngerdd Nadolig mewn cydweithrediad â Cherddorfa Symffoni Casnewydd. Mae cyrsiau pellach wedi’u cynllunio ar gyfer y Pasg, ac maen nhw hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o greu grŵp ar gyfer disgyblion iau.

Ffocws ar RhCT

Adfer ensemble oedd ffocws sgwrs Aeddan Williams o Wasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf hefyd, lle bu’n trafod yr Ensemble Jazz, a berfformiodd wedyn i’r cynadleddwyr cyn cinio. Dros y 18 mis diwethaf, mae Gwasanaeth Cerdd RhCT wedi cynyddu eu ensemblau rheolaidd o 3 i 10. Dyma rai o gynghorion allweddol Aeddan ar gyfer tyfu ensemble:

  • Gwnewch yn siŵr bod y bobl sy’n ei arwain wir yn poeni amdano.
  • Adeiladwch ef yn araf – efallai yn fisol neu bob pythefnos i ddechrau – nes iddo ddod yn rhan o’r dyddiadur.
  • Gweithio tuag at berfformiad – mae’n rhoi ffocws i chwaraewyr.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r grŵp – cydweithiodd RhCT gyda’r ensemble gwerin Vri, a hefyd Cerddoriaeth Gymunedol Cymru ar weithdai roc.
  • Byddwch yn greadigol gydag adnoddau, a gweld a allwch ddod o hyd i grantiau yn y gymuned i’ch helpu.
  • Dod o hyd i le i’w ddefnyddio sy’n gweithio i bawb.
  • Mae’n iawn codi tâl!!
Aeddan Williams, Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf

Aeddan Williams, Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf

Ensemble Jazz Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf

Ensemble Jazz Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf

Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

Gan ein bod ym Mhontypridd, a fydd yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol fis Awst eleni, ymunodd y Cyfarwyddwr Artistig Elen Ellis a’r Rheolwr Cystadlaethau Steffan Prys â ni i ddweud mwy wrthym am rai o’r cydweithrediadau a gynlluniwyd ar gyfer yr ŵyl. Bydd amrywiaeth eang o brosiectau arbennig yn cael eu cynnal, gyda phartneriaid yn cynnwys Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru, Clwb Ifor Bach, Gwasanaeth Cerdd RhCT, cantorion lleol o gymuned RhCT, yn ogystal ag ystod eang o gystadlaethau ar gyfer cerddorion a chantorion ifanc.

Sut mae creu partneriaethau sy’n gweithio?

Ein digwyddiad olaf ar ddiwrnod y Fforwm Agored oedd trafodaeth banel yn archwilio partneriaeth, gan ofyn sut ydych chi’n gwneud iddo weithio? Ymunodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru â Beatrice Carey, Cynhyrchydd Addysg Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda ffocws arbennig ar brosiect Cerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol, a Laurence Collier, Arweinydd Band Siglo Section. Dechreuodd Evan y sesiwn drwy adrodd chwedl am ddau syrcas: un a gyrhaeddodd rhwle am wythnos ac yna gadael yn syth wedi’r perfformiadau; Roedd y llall wedi gweithio gyda phobl leol cyn iddo gyrraedd, eu cynnwys yn y perfformiadau, ac yna eu gadael i baratoi’r maes ar gyfer y flwyddyn nesaf. Siaradodd y panel am rai o’r partneriaethau yr oeddent wedi cymryd rhan ynddyn nhw – o gyngherddau ochr yn ochr, i redeg bandiau mawr, i reoli hyfforddiant – a thrafod beth wnaethon nhw ei ddysgu o’r profiadau hyn. Daethon nhw i’r casgliad nad oedd un ffordd berffaith o wneud pethau, ond ei bod yn help i gael nod yn gyffredin. Mae cael un person allweddol yn rheoli pethau’n helpu sicrhau bod yna gyfathrebu da, ac mae cadw mewn cysylltiad rheolaidd yn helpu pan fydd pethau’n newid yn eich prosiect.

Beatrice Carney (BBC NoW), Evan Dawson (CCIC) a Laurence Collier (Siglo Section) mewn sgwrs banel

Beatrice Carney (BBC NoW), Evan Dawson (CCIC) a Laurence Collier (Siglo Section) mewn sgwrs banel

Emma Archer, Addysg Cerdd Caerdydd a’r Fro

Emma Archer, Addysg Cerdd Caerdydd a’r Fro

Ar y cyfan, roedd y diwrnod yn gyfle gwych i glywed am effaith y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth ac roedd yn wych bod yn yr ystafell gyda phobl sydd mor angerddol am y gwaith. Yn wyneb heriau ariannol, gofynnais wrth gynrychiolwyr I barhau i hyrwyddo’r gwaith maen nhw’n ei wneud, a dathlu’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae ein pobl ifanc angen cyfle i brofi gwaith tîm, magu hyder a bod yn greadigol yn fwy nag erioed o’r blaen.

Rhian Hutchings, Anthem Cymru a Chadeirydd Partneriaeth Cerdd Cymru.