Partneriaid

Mae gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a lleoliadau a cherddorion ledled Cymru yn un o flaenoriaethau allweddol y gwasanaeth cerddoriaeth fel rhan o’i waith i ddathlu’r amrywiaeth eang o gerddoriaeth a gynigir gan ein diwylliant a’n treftadaeth. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys y partneriaethau addysg cerddoriaeth ehangach megis grwpiau cerddoriaeth cymunedol, sefydliadau ieuenctid lleol, bandiau pres a chorau yn ogystal â sefydliadau cenedlaethol, awdurdodau lleol, partneriaethau cymdeithasol a llawer mwy.

Mae’n bwysig bod ein plant a’n pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cerddoriaeth fyw ac yn cael profiad ohoni ac yn cael mynediad at dechnoleg cerdd ddigidol, yn ogystal â mentrau sy’n cefnogi iechyd a lles. Ein pwrpas ni fel Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol ydy adnabod y cyfleoedd i greu cerddoriaeth fyw ac i weithio gyda phartneriaid i sicrhau mynediad i bawb at y cyfleoedd yma.

Wrth i’n gwaith fel Gwasanaeth Cerdd Cymru esblygu, fe fydd y dudalen Bartneriaethau hon yn datblygu hefyd. Dyma rai enghreifftiau o’r partneriaethau sydd wedi dwyn ffrwyth ers i ni gychwyn gweithredu’r Cynllun Cerdd Cenedlaethol ym mis Mai 2022.

School children engaging in classroom activity
Sefydliad Benedetti ar daith yn ardal Pen-y-Bont ar Ogwr ym mis Hydref, gan ddysgu dros 1,000 o blant y sir
Young musicians standing outside college with their instruments
Band Pres Ieuenctid Castell Nedd-Port Talbot yn cymryd rhan mewn prosiect Ochr yn Ochr gyda myfyrwyr cerddoriaeth o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Band y Cory
Wind band rehearsal
Band Chwyth Ceredigion yn ymarfer gyda Band Chwyth Prifysgol Aberystwyth