Pwy ydyn ni?

Yn dilyn cyhoeddi Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth i Gymru ym mis Mai 2022 mae'r Gwasanaeth Cenedlaethol bellach wedi cymryd ei chamau cyffrous cyntaf. Mae'n fuddsoddiad allweddol i addysg gerdd yng Nghymru, ac yn cynnig cefnogaeth safonol a chyfleoedd cyffrous iawn dros gyfnod o dair blynedd.

Beth ydy'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol?

Y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol sydd yn gyfrifol am roi'r Cynllun Cerdd Cenedlaethol ar waith. Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg a chyfleoedd cerddorol, beth bynnag yw eu sefyllfa ariannol. Dros gyfnod o dair blynedd (2022-25) bydd y gwasanaethau cerdd lleol a sefydliadau cerddorol cenedlaethol a chymunedol yn gallu rhoi mwy o gyfleoedd i blant a phobi ifanc yn eu hardal, gan agor llwybrau cerddorol amrywiol a llesol i bob un.

I bwy mae'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol?

I blant a phobl lfanc

Er mwyn rhoi’r cyfleoedd cerddorol gorau posib i blant a phobl ifanc Cymru sydd rhwng 3–16 oed, mae'r Gwasanaeth yn tynnu pawb at ei gilydd, er mwyn sicrhau bod llwybr cerddorol unigolyn mor hawdd â phosib, Efallai dy fod eisiau canu, cyfansoddi, dysgu am gerddoriaeth ddigidol, chwarae mewn cerddorfa neu fand, neu yn anelu am brofiad neu hyd yn oed yrfa yn y diwydiant - gallwn dy roi ar ben ffordd. Bydd cyfleoedd i brofi cerddoriaeth fyw o bob math, ac mae gennym ni hefyd lyfrgell o offerynnau ac adnoddau ar gael.

Children in a classroom playing pBuzz
Plant yn derbyn hyfforddiant pBuzz yn Sir Benfro (Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro)
Boys on stage, rapping
Rapiwr ifanc o Went mewn cyngerdd Nadolig yng Nghasnewydd (Cerdd Gwent)
Orchestra in rehearsal
Ymarferion Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn Haf 2023 (Aaron Child)

I athrawon ac ysgolion

Gyda’r celfyddydau’n ganolog i'r Cwricwlwm Newydd i Gymru bydd y Gwasanaeth Cerdd hefyd yn cefnogi ac ysbrydoli athrawon drwy gynnig sesiynau Profiadau Cyntaf, cefnogi gwaith dosbarth, hyfforddiant a chynnig llu o brofiadau cerddorol, creadigol newydd. Mae‘r platfform digidol newydd - Charanga Cymru - wedi cael ei greu’n bwrpasol er mwyn eich helpu i gynnal gwers gerddoriaeth yn eich dosbarth, beth bynnag yw eich profiad cerddorol chi. Bydd hynny’n rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi helpu plant a phobl ifanc i chwarae, canu, cymryd rhan a chreu cerddoriaeth - yn ein hysgolion a‘n lleoliadau, a hefyd yn ein cymunedau.

Froup of trainees outdoors with instruments
Athrawon peripatetig Caerdydd a’r Fro mewn sesiwn hyfforddi Medi 2022 (Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro)
Three adults, sitting in a theatre, holding a violin bow
Cynhadledd Hyfforddiant Profiadau Cyntaf Cenedlaethol yn Aberystwyth, Ionawr 2023
Three adults with musical instruments
Hyfforddiant Canolbarth a Gorllewin Cymru, Abertawe, Medi 2023

Ble gaf i fwy o wybodaeth?

Cysylltwch gyda’ch gwasanaeth cerdd lleol drwy eich athro dosbarth, athro cerdd neu diwtor, neu ewch i’r map ar ein gwefan.