![](https://www.gwasanaethcerdd.cymru/files/2023/09/logo-eisteddfod-2023-300x200.jpg)
Fe fyddwn ni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, diolch i wahoddiad gan Wasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn. Dewch i chwilio amdanon ni – chwiliwch am babell Gwasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn, dewch i drio offerynnau, ac i gael gwybodaeth am y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, ac i ddarganfod mwy am y gwasanaethau cerdd, mudiadau, partneriaid a grwpiau sy’n rhoi cyfleoedd i blant greu cerddoriaeth yn eich ardal chi.