Charanga Cymru Digital Platform

Adnoddau ymarferol a chefnogaeth i helpu athrawon gyflawni Cynllun Cenedlaethol Cerddoriaeth Cymru a Chwricwlwm y Celfyddydau Mynegiannol.

Bydd pob gwasanaeth cerdd a phob ysgol yn cael mynediad i’r platfform newydd.

Darperir fewngofnod i athrawon cerdd y Gwasanaethau Cerdd gan eu gwasanaeth cerdd eu hunan.

Athrawon ysgol- os gwelwch yn dda defnyddiwch y botwm ‘ymunwch am ddim’ i dderbyn mewngofnod ar gyfer eich ysgol.

Profiadau Cyntaf

Mae Charanga Cymru yn cynnwyr adnoddau addysgu rhyngweithiol ar guyfer offerynnau poblogaidd ar gyfer dechreuwyr, offerynnau sydd yn berffaith ar gyfer profiadau Cyntaf a chamau cynnar tiwtora grwpiau cerddoriaeth mawr.

Mae ‘Nodau Cyntaf i’r Band Cyntaf’ yn cadw ffocws ar alluogi plant i brofi’r hapusrwydd ddaw wrth greu cerddoriaeth drwy chwarae a chanu a gweithio tuag at eu perfformiad cerddoriaeth byw cyntaf gyda band yr ystafell ddosbarth neu ensembles mawr cyntaf.

Cwricwlwm Celfyddydau Mynegiannol

Gan lansio gydag Unedau Gwaith peilot ar gyfer pob un o’r camau cynnydd ym maes celfyddydau mynegiannol Cwricwlwm i Gymru, bydd yr adran hwn o’r platfform yn datblygu dros amser, wrth i ni weithio ar y cyd âg arbenigwyr y Cwricwlwm Cymraeg.

Mae’r adnoddau addysgu a ddarperir yn amrywio o ganeuon hyfryd animeiddiedig, i waith gwrando ac hefyd gweithgareddau byrfyfyrio ar gyfer grwpiau oedran iau a phrosiect Grime llawn ar gyfer myfyrwyr hŷn, drwy ddefnyddio YuStudio, sef stiwdio gerddoriaeth ar-lein Charanga ar gyfer dechreuwyr.

Adnoddau Cymuned

Bydd y rhan yma o’r platfform yn arddangos rhai o’r adnoddau addysgu gwych a grëwyd gan wasanaethau cerdd, athrawon a cherddorion p bob rhan o Gymru. ‘Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o gyfranwyr ac yn teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â’r hyn yr ydym wedi ei weld hyd yma.

Yumu

Mae Yumu yn fan gwaith ar-lein diogel ar gyfer myfyrwyr sydd yn gorffwys o fewn platfform digidol Charanga Cymru. Yma, gallwch rannu gwersi ac apiau creadigol gyda myfyrwyr a chefnogi eu dysgu rhwng gwersi athu allan i’r ysgol.

Fy Man Gwaith - i athrawon

Gallwch ymweld â Fy Man Gwaith er mwyn rhoi trefn ar yr adnoddau yr ydych am eu defnyddio yn eich gwersi. Gallwch uwchlwytho eich adnoddau eich hun os dymunwch, creu gwersi, unedau a chyrsiau a hyd yn oed cwbwlhau Cynlluniau Gwaith wedi eu personoli ar gyfer anghenion eich ysgol chi.