Lansio ‘Ystafell Athrawon’ ar faes Eisteddfod yr Urdd

6/05/2026

Bydd Ystafell Athrawon newydd sbon yn cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn eleni, gan gynnig man pwrpasol i staff ysgolion o bob cwr o Gymru i ymlacio, rhwydweithio a chymryd hoe o brysurdeb yr wythnos gystadlu.

Sefydlwyd yr Ystafell Athrawon gan CYDAGGwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a e-sgol, gyda chefnogaeth Urdd Gobaith Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y babell yn darparu amgylchedd croesawgar lle gall athrawon a staff addysg ddod at ei gilydd i gael lluniaeth, gwefru dyfeisiadau, derbyn cymorth a gwybodaeth ac ysbrydoliaeth yn ystod yr Eisteddfod. 

Yn ogystal, bydd amrywiaeth o gyrff sy’n cynnig cefnogaeth i athrawon yn bresennol ar wahanol ddiwrnodau’r wythnos. Ymhlith y rhain mae Adnodd, Medr, Dysgu, Niwroamrywiaeth Cymru ac Addysgwyr Cymru, gan sicrhau bod ystod eang o arbenigedd a chefnogaeth ar gael i staff ysgolion.

Bydd modd i ymwelwyr fanteisio ar Wal Wybodaethsesiynau dysgu a rhannu ymarfer da, ynghyd â llawer mwy, gan wneud yr Ystafell Athrawon yn ganolbwynt i gefnogaeth broffesiynol ac ysbrydoliaeth addysgol yn ystod yr ŵyl.

Y cyrff sy’n cydweithio

  • Mae CYDAG yn gorff cenedlaethol gweithgar a blaengar sy’n cefnogi’r system addysg Gymraeg drwy ddarparu llais cryf, cefnogaeth strategol a chyfleoedd datblygu i ysgolion a’r gweithlu addysg www.cydag.cymru/ 

  • Mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am weithredu’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth ar ran Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gyda ysgolion, athrawon a phartneriaid cenedlaethol i ddarparu addysg cerddoriaeth. www.gwasanaethcerdd.cymru  
  • Mae e-sgol yn fenter arloesol sy’n defnyddio technoleg ddigidol i ehangu cyfleoedd dysgu, gan alluogi disgyblion a staff ysgolion ledled Cymru i gydweithio, rhannu arbenigedd a chael mynediad at bynciau a darpariaeth arbenigol. www.e-sgol.cymru

Bydd Llywydd y dydd, Tudur Owen, yn agor yr Ystafell Athrawon yn swyddogol am 11:00yb ar ddydd Sul, 24 Mai, gan nodi dechrau menter newydd gyffrous i gefnogi a dathlu athrawon a staff addysg o fewn fframwaith Eisteddfod yr Urdd. 

DIWEDD


Am fwy o fanylion cysylltwch â:

CYDAG: Gwennan Schiavone gwennan.schiavone@cydag.cymru  

Gwasanaeth Cerdd Cymru: Sara Gibson sara.gibson@wlga.gov.uk  

e-sgol: Llifon Ellis llifon.ellis@e-sgol.cymru