
Daeth Côr a Cherddorfa’r Tair Sir at ei gilydd yn Ysgol Aberteifi ar Ebrill 18 a 19 i ymarfer darn newydd sbon gan y cyfansoddwr brenhinol Paul Mealor, wedi’i osod i eiriau’r bardd Menna Elfyn.
Cafodd ‘Angerdd a Cherdd’ ei ysgrifennu’n benodol ar gyfer cerddorion ifanc, a bydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Garreg Las yn Sir Benfro ym mis Awst. Bydd 150 o ddisgyblion o Sir Gaerfyrddin, Penfro a Cheredigion yn cymryd rhan yn y prosiect ensemble, gan berfformio’r darn newydd ar nos Sadwrn olaf, 8fed Awst 2026, yn y pafiliwn ar y maes.


Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac fe’i cydlynir gan wasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Bydd mynediad i’r perfformiad yn y pafiwn gyda thocyn maes y diwrnod hwnnw. Gellir prynu tocynnau maes ymlaen llaw ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, neu ar y maes yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

