Young musicians

Y camau cyntaf mewn unrhyw gynllun ydy’r camau pwysicaf, a dyna pam bod cymaint o’r pwyslais hyd yn hyn wedi cael ei roi ar sicrhau bod y cynllun Profiadau Cyntaf yn cael ei wreiddio’n dda.

Nod Profiadau Cyntaf ydy sicrhau fod cynifer â phosibl o blant yn cael cyfle i gael tro ar ddysgu offeryn cerdd, neu fyw profiad cerddorol, gan gyfoethogi datblygiad cerddorol ac emosiynol plant ysgolion cynradd.

Mae holl wasanaethau cerdd Cymru bellach yn darparu eu cynllun ‘Profiadau Cyntaf, gan ddaparu 6 wythnos neu fwy o hyfforddiant offerynnol i ddosbarthiadau heb unrhyw gost i’r ysgol. Ry’n ni’n gyffrous i weld cymaint o amrywiaeth yn yr arlwy ar draws Cymru, gyda’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i athrawon dosbarth serennu ochr yn ochr a’n tiwtoriaid. Bydd POB ysgol gynradd yng Nghymru yn derbyn y cynnig hwn dros y tair blynedd nesaf. Os nad ydych chi wedi cael cynnig eto, mi fydd yn dod atoch cyn hir. Er mwyn darganfod mwy am yr amserlen honno cysylltwch â’ch Gwasanaeth Cerdd lleol. Mae eu manylion ar ein gwefan www.gwasanaethcerdd.cymru.

Mae’r ymateb gan yr ysgolion sydd eisoes wedi derbyn y cynllun hwn yn eithriadol o gadarnhaol, gyda rhai plant yn cydio mewn offeryn am y tro cyntaf erioed. Wrth weithio gyda cherddor yn y dosbarth am gyfnod estynedig mae’n gyfle i gynyddu hyder athro dosbarth. Dywedodd Amanda Williams, Dirprwy Bennaeth Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych:

Mae’n braf iawn cael cerddor i mewn i’r Ysgol … rhywun gwahanol. Mae hyder y plant ‘di codi. Mae’r plant bach distaw wedi gallu chwarae efo pawb arall, a rhoi tro arni. O’r blaen, ella os na fydda digon o offerynau, fydden nhw ddim ‘di mynd draw at y bocs a dewis offeryn. Ond mae ‘na offeryn i bawb, ac mae hynny o fudd mawr.

O ganlyniad i’r gwersi Profiadau Cyntaf mae rhai plant wedi cael eu sbarduno i barhau ag addysg gerddoriaeth drwy ymgymryd â gwersi unigol, ac eraill yn barod wedi ymuno gyda ensembles lleol am y tro cyntaf.

Cafodd Lucas, Betsan, Scarlett, Hazel, Billy, Leo ac Olivia o Ysgol Castellau, Beddau, eu gwers glockenspiel gyntaf ym mis Ionawr 2023 fel rhan o’r cynnig Profiadau Cyntaf. Cymaint yw brwdfrydedd y criw ers y wers gyntaf honno bod pob un wedi ymuno â Band Chwyth Iau eu sir, Rhondda Cynon Taf, er mwyn ymarfer eu sgiliau ymhellach.

Dathlu Profiadau Cyntaf

O fis Ionawr hyd mis Gorffennaf mae sawl cyngerdd Profiadau Cyntaf wedi cael eu cynnal ar draws Cymru – o Gaerdydd i Gastell Nedd; o Wynedd i Wrecsam. Fel rhan o’r cyngherddau yma bu plant yn perfformio ar lwyfan, rhai am y tro cyntaf erioed. Dyma oedd pen llanw taith i’r ysgolion sydd eisoes wedi derbyn y cynnig Profiadau Cyntaf, ac roedd yna frwydfrydedd heintus ar bob un llwyfan. Mewn sawl un o’r cyngherddau yma fe welson ni blant yn chwarae offeryn pBuzz sydd wedi cael eu rhannu gyda’r holl wasanaethau cerdd.

Newyddion da

Dros y misoedd diwethaf ry’ch chi wedi bod yn anfon eich lluniau aton ni o’r holl weithgarwch yn ymwneud â’r cynnig Profiadau Cyntaf. Mae hi wedi bod yn hyfryd cael rhannu’r bwrlwm cenedlaethol wrth i blant elwa o’r amrywiaeth o wersi cerddorol. Cofiwch gyfrannu a rhannu eich profiadau cerddorol gyda ni: