Woman performing with violin

Ddiwedd mis Ionawr, fe gynhalion ni gynhadledd Profiadau Cyntaf yn Aberystwyth, lle cafodd athrawon o’r holl wasanaethau cerdd hyfforddiant arbennig gan Rachel Cooper o Music Masters, yn ogystal â sesiwn hyfforddiant pellach ar ddefnyddio Charanga Cymru o fewn y dosbarth. Cawsom ymateb gwych gan y rhai a fu yno, a ddywedodd:

I enjoyed it all, it reinforced my own practices as a teacher as well as new ideas. Thanks!

Ymateb arall a gawson ni oedd:

So important to all get together as a service and as a country. For some staff it was a first for many years, but it is much appreciated.

Y diwrnod hwnnw hefyd fe gawson ni gyflwyniad gan Dr Beth Pickard ar y ddarpariaeth I blant ac anghenon arbennig. Ers hynny ry’n ni wedi cwblhau gwaith ymchwil i adnabod yr angen am hyfforddiant i gerddorion a fyddai’n hoffi datblygu sgiliau mewn gweithio mewn ysgolion arbennig. Ry’n ni nawr yn y broses o greu’r hyfforddiant hwnnw, a bydd y wybodaeth yna’n cael ei rannu gyda chi yn nhymor yr Hydref.