Wrth i ni gymeryd ein camau cyffrous cyntaf, rydym yn hynod o falch o gael agor y safle yma i chi gael gweld y gwaith ar gychwyn a chael blas o’r arlwy sydd i ddod.

Fel mae’r Gwasanaeth yn datblygu, felly hefyd fydd y wefan hon a chawn gyfle i rannu newyddion am ein partneriaid ac am ddatblygiadau cerddorol cyffrous i blant, pobl ifanc a chymunedau ar hyd a lled Cymru!

Yma hefyd mae holl fanylion cyswllt a gwybodaeth eich Gwasanaeth cerdd lleol fydd, ynghyd a phartneriaid allweddol, yn gyfrifol am elfennau allweddol o’r cynllun.