Platfform cerdd digidol yw Charanga Cymru sydd wedi bod ar gael am ddim i holl ysgolion Cymru ers mis Hydref 2022. Mae wedi bod yn flwyddyn gyntaf gyffrous o weld cynnifer o ysgolion yn defnyddio’r adnodd newydd hwn yn y dosbarth.

Hyd yn hyn, mae dros 700 o ysgolion wedi mewngofnodi i’w cyfrifon, ac mae gan fwy na 3,100 o athrawon yn yr ysgolion hynny eu cyswllt personol eu hunain i’r platfform. Mae’n stori debyg mewn gwasanaethau cerdd lleol, lle mae dros 300 o diwtoriaid yn manteisio ar y cynnwys er mwyn hwyluso eu gwersi nhw, ac i gefnogi athrawon dosbarth. Gyda’i gilydd, mae athrawon wedi bod yn defnyddio’r platform am gyfanswm o bron a bod 21,000 awr!

Wrth gynnal sesiynnau hyfforddi bu Charanga yn gwrando ar eich adborth chi fel athrawon ledled Cymru i ddysgu mwy am yr hyn yr hoffech ei weld arno. Felly, dyma grynodeb o’r hyn sy’n dod ar gyfer dechrau Tymor yr Hydref.

Adnoddau’r cwricwlwm

  • Mwy o’r unedau cerddoriaeth ar waith poblogaidd ar gyfer Cam Cynydd 1
  • Wyth uned newydd sbon ar gyfer Camau Cynydd 2–3
  • Prosiectau YuStudio Ychwanegol yn Camau Cynydd 4 i helpu i ehangu mynediad at dechnoleg cerddoriaeth

Ar gyfer ‘Profiadau Cyntaf’

Mae Charanga Cymru hefyd yn edrych ar y llyfrgell adnoddau presennol (ar gyfer 26 offeryn) ac yn cynhyrchu prosiectau blaengar 6–10 wythnos o hyd, i’w gwneud hi’n haws i chi gyflwyno’r rhaglenni i blant. Bydd deunyddiau newydd yn cynnwys Ukulele, a chwrs canu a strymio ar gyfer gitâr.

Ychwanegiadau at y platfform

Yn seiliedig ar eich adborth, gallwch edrych ymlaen at dri maes newydd sy’n benodol ar gyfer caneuon, offer creadigol, a deunyddiau o’ch gwasanaeth cerdd lleol.

Hyfforddiant

Nod y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yw sicrhau ein bod ar flaen y gad wrth gynnig yr addysg gerdd gorau posib i’n plant a phobl ifanc, ac i chi fel athrawon ac ysgolion. Gyda dyfodiad y Cynllun Cerdd Cenedlaethol mae ganddon ni’r gallu i fuddsoddi mewn hyfforddiant, sydd yn eithriadol o bwysig, am fod ganddon ni dalent cerddorol arurthol yma yn rhengoedd gwasanaethau cerdd Cymru.

Dros y chwe mis diwetha cafwyd sawl cwrs hyfforddiant, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn sirol. Mewn sawl sir, oherwydd yr heriau ariannol, dyma oedd yr hyfforddiant cyntaf ers peth amser. Ry’n ni wedi bod yn rhannu arfer dda ar draws pob sir, a datblygu ein haddysgeg ar gyfer dysgu y gwahanol elfennau hanfodol sy’n rhan o’r Cynllun Cerdd Cenedlaethol.

Daw’r angen am hyfforddiant yn fwy-fwy pwysig wrth i ni baratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd. Ry’n ni’n cyd-weithio yn agos gyda’r gwahanol consortia addysg i greu modiwl newydd, er mwyn hwyluso’r newid yn y drefn o ddysgu.

Mae’r ffaith bod cerddoriaeth yn dod yn ôl I’r dosbarth, sydd wir yn mynd I gael effaith ar blant, mae’n bwysig ein bod ni’n sylweddoli pa mor werthfawr mae hynny’n mynd
I fod. Mae cerddoriaeth yn rhan o’n bywydau ni bob dydd, ond mae’n cynnig gymaint mw yna hynna. Mae’n cynnig agor dy ddychymyg di, dy allu i gyd-weithio, dy wytnwch di. Mae’r plant yma nawr yn
mynd i gael cyfleoedd sydd wedi bod ar goll ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae’n gyffrous gweld pethau’n dechrau dwyn ffrwyth.

Alan Thomas Williams, Swyddog Cwricwlwm, Cyngor Sir Caerdydd Curriculum Officer, Cardiff County Council