
Yn paratoi disgyblion ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2027?
P’un a ydych chi’n ymarfer gyda chôr, parti, unawdydd neu ddeuawd, mae adnoddau am ddim bellach ar gael drwy Charanga Cymru i helpu i wneud yr ymarferion hollbwysig hynny ychydig yn haws.
Os nad ydych wedi defnyddio’r adnoddau o’r blaen, neu os ydych chi angen atgoffa eich hun sut mae eu cyrraedd, yna mae Charanga Cymru wedi trefnu dwy sesiwn gyflwyno ar-lein am ddim ar 19 ac 20 Hydref:
Defnyddio Traciau Cefndir Charanga ar gyfer yr Urdd (Cymraeg)
https://www.eventbrite.com/e/defnyddio-traciau-cefndir-charanga-ar-gyfer-yr-urdd-cymraeg-tickets-2002220425190?aff=oddtdtcreator
Using Charanga Urdd Backing Tracks (English)
https://www.eventbrite.com/e/using-charanga-urdd-backing-tracks-english-tickets-2002219202533?aff=oddtdtcreator
Mae’r adnoddau’n cynnwys traciau cyfeiliant ar gyfer detholiad o:
- ddarnau i gorau a phartïon
- unawdau
- deuawdau
Ar gyfer 2027, defnyddiwyd offerynnau chwyth i gynrychioli’r rhannau lleisiol yn y traciau ymarfer. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws clywed hyd a siâp y nodau unigol, gan roi arweiniad cerddorol clir i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddysgu eu darnau.
Gwrando. Ymarfer. Magu hyder.
Gall athrawon ddefnyddio’r traciau yn ystod ymarferion yn yr ysgol, a gall disgyblion hefyd eu defnyddio i gefnogi ymarfer annibynnol gartref drwy ardal ddisgyblion Yumu Charanga Cymru.
Os yw eich ysgol eisoes yn defnyddio Charanga Cymru, mewngofnodwch drwy wefan y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol a dewiswch dab Eisteddfod yr Urdd i ddod o hyd i adnoddau 2027.
Ddim wedi cofrestru eto? Gall ysgolion gofrestru i gael mynediad am ddim at Charanga Cymru yma:
https://www.gwasanaethcerdd.cymru/site/charanga-cymru-ymunwch-am-ddim/
Mae Charanga Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, gan alluogi pob ysgol yng Nghymru sy’n cael eu hariannu gan awdurdod lleol i gael mynediad at y platfform addysg gerddoriaeth dwyieithog yn rhad ac am ddim.
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd yng Ngwent rhwng 29 Mai a 4 Mehefin 2027.
Hafan