Taflu’r golau ar Gymru

27/11/2025
Bu Cyd-lynydd y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Mari Lloyd Pritchard, yn amlinellu strwythyr y Gwasanaeth wrth y gynulleidfa

Cafodd cyfarfod arbennig o Fwrdd Partneriaid Gwasanaeth Cenedlaethol Cerdd Cymru ei gynnal yn Llundain ym mis Tachwedd i ddathlu a thrafod y datblygiadau mewn addysg gerddoriaeth yng Nghymru.

Cafodd y cyfarfod ei drefnu i gyd-fynd â dau gyngerdd fel rhan o Proms Music for Youth yn Neuadd Brenhinol Albert ar 10fed a 11eg o Dachwedd, lle cymerodd 400 o gerddorion ifanc o ganolbarth, gorllewin a de-ddwyrain Cymru ran. Yn ei plith oedd ensemble telyn o Geredigion, côr merched o Sir Gaerfyrddin, ac cherddorfa a chôr rhanbarthol 10 sir o dde-ddwyrain Cymru.

Côr Merched Sir Gâr choir yn perfformio yn y Proms Music for Youth yn Neuadd Frenhinol Albert, 10 Tachwedd

Gwaith partneriaeth yn disgleirio

Ymhlith y mudiadau a ddaeth i’r cyfarfod oedd UK Music, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ABRSM, Trinity College, Sinfonia Cymru, Anthem, Urdd Gobaith Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Charanga, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Music Masters, Undeb y Cerddorion, yn ogystal â rhai o arweinwyr ein gwasanaethau cerddoriaeth.

Yn ystod y cyfarfod, fe esboniodd cydlynydd cenedlaethol GCCC, Mari Lloyd Pritchard, sut wnaeth cyllid Llywodraeth Cymru adnewyddu gwaith gwasanaethau cerdd ledled Cymru rhwng 2022-2025, a bod gan bob gwasanaeth yr hyblygrwydd i ddefnyddio’r cyllid i gyflwyno’r Cynllun Cenedlaethol mewn ffordd sy’n gweddu i’w ardal. Mae ein cysylltiad â Music Mark UK wedi golygu ein bod bellach yn sgwrsio gyda’n cydweithwyr yn y DU yn rheolaidd, sydd wedi ein galluogi i drafod yr heriau, a rhannu arfer dda gyda’n gilydd. Roedd yn wych croesawu Mae Murray o’r Grŵp Partneriaeth Addysg Gerdd (MEPG) yn yr Alban, a Bridget Whyte o Music Mark sy’n gweithio gyda gwasanaethau cerddoriaeth yn Lloegr, yn ogystal â Darren Canmore, Awdurdod Addysg Gerddoriaeth Gogledd Iwerddon, ar y sgrin.

Rhannodd partneriaid, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Charanga, eu profiad o weithio gyda’i gilydd yng Nghymru gyda phartneriaid eraill. Cwblhawyd y cyfarfod gyda thrafodaeth panel, wedi ei chadeirio gan Gadeirydd ein Bwrdd, yr Athro Helena Gaunt o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd y panel yn cynnwys Tom Kiehl, Prif Weithredwr UK Music; Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru; Chris Walters, Undeb y Cerddorion; a Rhian Hutchings, Prif Weithredwr, Anthem Cymru.

Nosweithiau trawiadol yn Neuadd Frenhinol Albert

Cafodd cyfarfod y Bwrdd y Partneriaid ei drefnu i gyd-ddigwydd â pherfformiadau gan gerddorion ifanc o ganolbarth, gorllewin a de-ddwyrain Cymru yn y Proms Music for Youth yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain.

Ar ddydd Llun, 10fed o Dachwedd, roedd hi’n amser i Ensemble Telyn Ceredigion a Chôr Merched Sir Gâr serenu ar y llwyfan byd-enwog, ac chafwyd perfformiadau gwych gan y ddau grŵp. Cymerodd y merched o Geredigion hefyd reolaeth o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, lle cafodd eu cynnwys ‘tu ôl i’r llenni’ eu gweld gan filoedd o ddilynwyr!

Nos Fawrth, fe gymerodd 220 o gerddorion ifanc, yn cynrychioli Cerddorfa a Chôr Ieuenctid De Ddwyrain Cymru, eu lle ar y llwyfan canolog. Wedi eu dod ynghyd gan Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro, roedd y disgyblion yn hanu o ddeg awdurdod lleol (Caerdydd, Bro Morgannwg, Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili, Merthyr, RCT a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont).

Mae’r fenter hon yn ne-ddwyrain Cymru yn un o brif fwriadau’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, sydd â’r nod o gryfhau partneriaethau a chefnogaeth rhanbarthol i blant a phobl ifanc sydd am brofi creu cerddoriaeth gyda’i gilydd. Y tu hwnt i gyffro perfformio yn y Neuadd Frenhinol Albert, mae’r prosiect yn anelu at feithrin cyfleoedd parhaus i bobl ifanc ledled De Cymru, wedi’u huno gan eu hangerdd tuag at gerddoriaeth.

Dyma rai delweddau o’r offerynwyr a’r côr yn ystod y gyngerdd ar 11eg Tachwedd.