Pam Cerddoriaeth? Caerfyrddin, 24 Chwefror 2026
Gyda’n partneriaid, rydyn ni wedi creu digwyddiad o’r enw ‘Pam Cerddoriaeth?’ i ddangos i bobl ifanc sut y gall cerddoriaeth fel pwnc ysgol agor drysau iddyn nhw.
Mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, byddwn yn cyflwyno unigolion ysbrydoledig sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt i’r disgyblion. Bydd gweithdai, perfformiadau, trafodaethau a stondinau gwybodaeth wedi’u curadu’n arbennig ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 14 oed.

Bydd ein digwyddiad Pam Cerddoriaeth? nesaf yn digwydd yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth, 24 Chwefror 2026. Bydd cludiant i’r digwyddiad yn cael ei ddarparu am ddim. Cofrestrwch isod.
Bydd partneriaid yn y digwyddiad yn cynnwys Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Charanga, Anthem Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a CBAC



Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad ‘Pam Cerddoriaeth?’ nesaf yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth, 24 Chwefror 2026, llenwch y ffurflen hon: