

Mae Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn darparu addysg gerddoriaeth gynhwysol o safon uchel a chyfleoedd perfformio i dros 3,000 o blant, pobl ifanc ac oedolion bob wythnos. Trwy wersi offerynnol a lleisiol, ensemblau, digwyddiadau a gweithdai, mae’r gwasanaeth yn cefnogi’r cynnydd cerddorol hygyrch ar draws ysgolion a chymunedau Sir y Fflint.
Mae tîm talentog o diwtoriaid cerdd, pob un â sgiliau arbenigol, yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, cymunedau, a thîm creadigol ehangach Theatr Clwyd i ddatblygu prosiectau unigryw. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cydweithio â phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i ehangu cyfleoedd cerddorol a hybu arloesi ar draws y sector.
Mae’r rhaglen Profiadau Cyntaf yn cael ei chyflwyno ym mhob ysgol gynradd ac arbenigol yn y sir, gan roi mynediad o 10 wythnos o ganu dosbarth cyfan a dysgu offerynnol heb unrhyw gost i ysgolion, i dros 2,000 o ddisgyblion Blwyddyn 3. Mae cymorth ychwanegol ar gael trwy wersi grŵp mawr neu ddosbarth cyfan, clybiau, a phecyn tanysgrifio ysgolion sy’n cynnig adnoddau, datblygiad proffesiynol parhaus, a chefnogaeth cwricwlwm.
Mae cynnydd yn cael ei gefnogi drwy’r rhaglen ‘Musical Pathways’ a naw ensemble, gan gynnwys corau, bandiau chwyth, a grwpiau pop a roc. Mae Cerddoriaeth Theatr Clwyd hefyd yn cyd-arwain ensembles tair sir, sy’n dod â dros 120 o gerddorion ifanc o bob rhan o ogledd ddwyrain Cymru ynghyd ar gyfer cyfleoedd perfformio a datblygu.


Manylion Cyswllt
www.theatrclwyd.com/take-part/music01352 344101
- Cath Sewell, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth
Theatr Clwyd
Raikes Ln
Mold
CH7 1YA