Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr

Manylion Cyswllt

Mae Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu hyfforddiant offerynnol a lleisiol i ddisgyblion ar draws y sir, gan roi cyfle i bobl ifanc brofi a mwynhau cerddoriaeth. O’r plant ieuengaf yn yr ysgolion cynradd i gerddorion mwy profiadol yr ysgol uwchradd, mae’r gwasanaeth yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau a hyder.

Yn ogystal â gwersi mewn ysgolion, mae’r gwasanaeth yn cynnal ystod eang o ensembles, gan gynnwys cerddorfeydd, corau a bandiau. Mae disgyblion yn mynychu ymarferion wythnosol, lle maen nhw’n cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau, gwneud ffrindiau a pharatoi ar gyfer perfformiadau. Mae cyngherddau a digwyddiadau cymunedol yn uchafbwynt rheolaidd, gan roi cyfle i gerddorion ifanc arddangos eu talent.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig gwersi un i un, grwpiau bach a dosbarthiadau cyfan ar draws amrywiaeth eang o offerynnau – llinynnol, pres, chwythbrennau, taro, gitâr, piano, telyn a llais. Mae ysgolion hefyd yn cael mynediad at raglenni poblogaidd fel drymio samba, ukulele, ffidil ac offerynnau plastig i ddechreuwyr, sy’n rhoi cyfle cyntaf i bob plentyn arbrofi gyda cherddoriaeth. Yn ogystal, mae’r gwasanaeth yn cefnogi ysgolion gyda chyflawni’r cwricwlwm a phecynnau pwrpasol wedi’u teilwra i anghenion dysgwyr.

Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, mae disgyblion yn cael ei hannog i ymuno ag ensembles sirol, cyrsiau preswyl a hyd yn oed mynd ar deithiau rhyngwladol, gyda chyfleoedd diweddar yn cynnwys perfformio yn Neuadd Dewi Sant a Neuadd Hoddinott, Caerdydd, Birmingham Symphony Hall, Royal Albert Hall a Disneyland Paris. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu gwasanaeth benthyca offerynnau am ddim, mentrau mynediad cynhwysol, a llwybrau dilyniant cryf gyda sefydliadau cenedlaethol fel BBC NOW, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Music for Youth, a Chorfflu Brenhinol Cerddoriaeth y Fyddin. Yn 2025, enillodd y gwasanaeth Wobr Dinesydd y Maer am gyfraniad at y gymuned ac mae wedi gweld twf sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n dysgu offeryn ac yn ymuno ag ensembles.

Mae Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr yn chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol y sir ac yn parhau i roi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu, perfformio a ffynnu trwy gerddoriaeth.

Manylion Cyswllt

01656 642658

  • Simon Gray, Pennaeth Cerdd - Celfyddydau Mynegianol

Swyddfeydd Dinesig,
Stryd yr Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB