Cerdd NPT

Manylion Cyswllt

Mae Cerdd Castell-nedd Port Talbot yn darparu rhaglen gynhwysol o safon ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd y sir. Mae disgyblion blwyddyn 4 yn cymryd rhan mewn Profiadau Cyntaf gyda gwersi ag arddull carwsél mewn pres, chwythbrennau, ac offerynnau llinynnol ar draws pob ysgol, wedi’u cefnogi gan ddiwrnodau Samba, telyn, ukulele, a drama. Mae pob tymor yn gorffen gyda chyngerdd ysgol, ac mae pob ysgol gynradd wedi’i chynnwys.

Mae gweithgareddau mewn ysgolion uwchradd wedi cynnwys Choral Junction Project sydd wedi arwain at greu côr ieuenctid yn y sir, tra bod Mr Phormula wedi cyflwyno gweithdai beatbocsio a sgiliau DJ. Mae sesiynau meddylgarwch ar gael hefyd i gefnogi llesiant o amgylch straen cyfnod arholiadau. Mae’r gwasanaeth hefyd yn falch o’r sioe staff deithiol sy’n dod â pherfformiadau band a cherddorfa byw i bob ysgol uwchradd, gan gyrraedd 7,000 – 8,000 o ddisgyblion a chefnogi’r rhaglen pontio cynradd i uwchradd.

Yn ogystal â meithrin cerddorion y dyfodol, mae cynhwysiant yn ganolog i’r gwasanaeth. Mae disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymryd rhan mewn gweithdai Samba, cyngherddau, ac ymweliadau athrawon arbenigol i helpu gyda defnyddio offerynnau synhwyraidd.

Mae canolfannau cerddoriaeth wythnosol yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys ystod eang o ensemblau – o gorau a cherddorfeydd ieuenctid i fandiau pres a bandiau mawr – gyda pherfformiadau rheolaidd a theithiau rhyngwladol.

Mae cynnydd yn cael ei gefnogi trwy ganolfannau arholi Trinity ac mae cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr cymwys. Mae Cerdd Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys Cerddorfa Chwe Sir, Cymdeithas Gerdd Prifysgol Abertawe, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Band Pres Cwmtawe, a Band Cory, gan gynnig profiadau sy’n ysbrydoli ac yn cysylltu cerddorion ifanc.

 

Manylion Cyswllt

01639 686827

  • Paul Bewen-Chappell, Rheolwr

Cerdd NPT Music
Canolfan Addysg ac Hyfforddiant Baglan
Heol Elmwood
Baglan
Port Talbot
SA12 8TF