Cerdd Gwent

Manylion Cyswllt

Mae Cerdd Gwent yn darparu ystod eang o gyfleoedd cerddoriaeth ar draws Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen – o diwtora a hyfforddiant o safon uchel i brofiadau ysbrydoledig ar gyfer unigolion a’r dosbarth cyfan. Mae ansawdd a dilyniant yn ganolog i’r gwasanaeth, gyda mesurau diogelu cryf yn eu lle, cefnogaeth tiwtoriaid, a llwybrau clir, o brosiectau dosbarth i wersi unigol.

Mae pob disgybl Blwyddyn 3 ar draws y rhanbarth yn mwynhau cymryd rhan yn ein cynllun 10 wythnos, Profiadau Cyntaf, lle mae dosbarthiadau yn darganfod y cyffro o greu cerddoriaeth gyda’i gilydd cyn dangos a dathlu eu cynnydd mewn cyngherddau diwedd tymor. Mewn ysgolion uwchradd, mae’r cynnig yn ehangu i gynnwys prosiectau deinamig fel ‘bît bocsio’, DJio, rap, roc a phop a chyfansoddi. Y nod yw sbarduno creadigrwydd, magu hyder, ac ysbrydoli pobl ifanc i fynd â cherddoriaeth ymhellach trwy astudio’r pwnc ar gyfer TGAU a thu hwnt.

Yn 2025, mae mentrau newydd cyffrous yn cynnwys corau clwstwr ym mhob awdurdod, partneriaeth gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ym Mlaenau Gwent a Thorfaen, a Band Support Project yng Nghasnewydd sy’n helpu perfformwyr ifanc i ddatblygu trwy gynhyrchu, recordio a pherfformio. Mae disgyblion hefyd yn mwynhau ymweliadau sy’n cynnwys perfformiadau byw gan grwpiau chwythbrennau, pres a llinynnau Cerdd Gwent.

Mae cynhwysiant a chynnydd wrth wraidd y gwasanaeth. Mae darpariaeth bwrpasol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, therapi cerdd, ac adnoddau addasol yn sicrhau mynediad i bawb. Yn ychwanegol i hynny mae canolfannau penwythnos, cymorth yn ystod arholiadau a llwybrau achrededig gan UCAS yn cynnig cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc i chwarae, canu, creu a mwynhau cerddoriaeth mewn amgylchedd diogel ac ysbrydoledig.