
Mae cwmni cydweithredol o Ogledd Cymru wedi cael eu dewis i ddarparu gwasanaeth cerdd newydd i ysgolion yng Nghonwy.
Bydd Cerdd Cydweithredol Gogledd Cymru yn lawnsio’n swyddogol ym mis Medi, a daw’r newid mewn darpariaeth yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i newid i ddarparwr allanol. Mae’r corff eisioes yn gweithio yn siroedd Dinbych a Wrecsam ac yn nodi 10 mlynedd o fodolaeth eleni.
Dywedodd Heather Powell, Pennaeth Gwasanaeth y corff cydweithredol: “Rydyn ni wedi bod drwy’r broses hon ddwywaith o’r blaen (yn siroedd Dinbych a Wrecsam) ac mae’r profiad hwnnw’n mynd i’n helpu wrth i ni baratoi at wasanaethu ysgolion Conwy.
“Deng mlynedd yn ôl, roeddwn i’n un o’r tiwtoriaid yn Sir Ddinbych a gollodd ei swydd. ‘Dw i wedi bod yno fy hun, rwy’n deall sut mae hynny’n teimlo. Roedd gen i blant ifanc ar y pryd. Roedd yn deimlad brawychus ac anodd, ond fe ddaethon ni drwyddi.
“Fel yn Sir Ddinbych a Wrecsam, mae yna ffordd ymlaen i Gonwy hefyd, a dwi’n eitha sicr y bydd y ffordd ‘da ni’n gweithio, fel darparwr nid-er-elw o fewn y trydydd sector, yn golygu y gallwn ni gynnig mwy o gyfleoedd.
“Mae e’n gam positif, am ei fod yn cyd-fynd gyda Chynllun Addysg Gerddoriaeth Llywodraeth Cymru sy’n annog mwy o weithio rhanbarthol a chenedlaethol.
“Mae hyn yn ein caniatau i weithio ar draws tair sir, gan rannu adnoddau a chefnogi tiwtoriaid gyda phethau fel datblygiad prosefiynnol – ac yn pen draw mi fydd yn well i’r plant hefyd”.

Bydd y corff cydweithredol newydd yn darparu amrywiol o wersi un-i-un ledled Conwy gyda chymorth penodol ar gyfer dysgwyr bregus a’r rhai sy’n derbyn bwyd ysgol am ddim. Byddan nhw hefyd yn rhedeg amrywiaeth o ensemblau, gweithgareddau ychwanegol, arholiadau, cymorth TGAU a chyfleoedd cerddorol, yn rhyngwladol ac yn genedlaethol.
Mae’r darparwr nawr yn chwilio am athrawon i ymuno â nhw. Dywedodd Ms Powell: “Rydym ni mewn cyfnod o drawsnewid, felly ry’n ni’n chwilio am aelodau newydd i ymuno â ni i ddysgu yng Nghonwy.
“Bydd y gwasanaeth yn cael ei lawnsio’n swyddogol ym mis Medi gan ein band dwyieithog, ‘Gwnewch swn’, sy’n mynd ar daith mewn ysgolion uwchradd Conwy ac yna mewn cyfres o gyngherddau ar-lein ar gyfer yr ysgolion cynradd.
“Ein gweledigaeth ni ydy sicrhau bod cerddoriaeth i bawb, beth bynnag yw eu cefndir – a bod pob plentyn sy’n dymuno dysgu sut i ganu neu chwarae offeryn yn medru gwneud hynny.
“Fe fyddwn ni’n gweithio ochr yn ochr gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau bod yna ddarpariaeth i bob plentyn, beth bynnag yw eu sefyllfa ariannol.
Sicrhau sefydlogrwydd
Dywedodd y Cynghorydd Julie Fallon, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer Addysg: “Ar adeg pan fo cyllidebau dan bwysau fel erioed, dyma’r ffordd orau ymlaen i sicrhau bod gennym wasanaeth cerddoriaeth rhagorol a chynaliadwy yn ariannol yn ein hysgolion.
“Mae Cerdd Cydweithredol Gogledd Cymru wedi rhagori yn y gwaith o ddarparu cerddoriaeth mewn modd deniadol ac effeithiol sy’n ysgogi plant a phobl ifanc, tra’n darparu gwaith i diwtoriaid cerdd.
“Mae hyn yn rhoi hyder i ni fod yr hyn sydd wedi’i gyflawni yn Sir Ddinbych a Wrecsam yn gallu cael ei ailgynhyrchu a’i adeiladu yma yng Nghonwy.”