Clyweliadau ar agor i ensemblau cerdd Ieuenctid Cymru 2026

15/09/2025

Yn dilyn haf llwyddiannus o gyngherddau a chyrsiau, mae un o’n partneriaid sy’n derbyn cymorth ariannol GCC – Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – unwaith eto’n annog cerddorion ifanc dawnus Cymru i geisio am le yn ensemblau’r flwyddyn nesaf.

Yn ystod Gorffennaf ac Awst 2025, fe gynhaliodd Cerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyfres o gyngherddau ar draws Cymru, a oedd yn benllanw blwyddyn o waith caled i’r cerddorion ifanc a’u tiwtoriaid.

Nawr, mae cerddorion ifanc o bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cael eu gwahodd i wneud cais i ymuno â’r ensemblau hyn yn 2026. Fel mae’n digwydd, mae 2026 hefyd yn flwyddyn hynod bwysig i Gerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gan eu bod yn dathlu eu penblwydd yn 80 oed. Bydd manylion cyngherddau’r côr, a chyngherddau’r ensembleau eraill, yn cael eu rhyddhau yn 2026.

Cerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025

Wedi cwrs preswyl ar gampws Llanbedr Pont Steffan o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, fe wnaeth dros 100 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru berfformio mewn cyfres o gyngherddau, gan chwarae darnau Americanaidd fywiog heriol.

O dan arweiniad y cyfarwyddwr cerddorol cydnabyddedig yn rhyngwladol, Kwamé Ryan, dechreuodd y daith yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, cyn iddyn nhw deithio i Gadeirlan Ty Ddewi y diwrnod canlynol i berfformio yng Ngŵyl Gerdd Abergwaun.

Cafwyd tair cyngerdd arall hefyd – yng Nghwyl Tri Llais Eglwys Gadeiriol Henffordd, yna’r Eglwys Gadeiriol yn Llanelwy, cyn cloi rhaglen yr haf yn neuadd odidog Brangwyn yn Abertawe.

Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025

Mae aelodau’r Cor, sy’n amrywio o 16 i 22 mlwydd oed, wedi cael eu dewis o bob cwr o Gymru ac yn cael eu dewis drwy broses clyweliadau bob blwyddyn. Dan gyfarwyddyd y cyfarwyddwr ysbrydoledig Tim Rhys-Evans, cyflwynodd y cor eithriadol hwn o dalentau ifanc Cymreig gyngherdday yn yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, Sir Ddinbych, Sain Ffagan Amgueddfa Cymru ac yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.

Band Prês Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025

Wrth y llyw yn arwain Band Prês Cenedlaethol Ieuenctid Cymru eleni oedd y cyn aelod a Chyfarwyddwr Cerddorol Band Pres Pencampwriaeth 2024 Flowers, Paul Holland. Cafodd y band gwmni’r cerddor offerynnau taro ifanc Jordan Ashman – enillydd y Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2022 – yn eu cyngherddau yn Neuadd William Aston, Wrecsam, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth ac yng Nghanolfan Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Clyweliadau 2026 ar agor NAWR!

Mae’r clyweliadau ar gyfer Band Pres, Cor a Cherddorfa Ieuenctid Cymru 2026 yn awr ar agor! Archebwch eich clyweliad nawr trwy glicio yma. Mae dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar 12 Hydref 2025.