Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych

Manylion Cyswllt

Mae Cerdd Cydweithredol Dinbych, Wrecsam a Chonwy yn cyflwyno addysg a phrofiadau cerddoriaeth eang a chynhwysol. O wersi offerynnol a lleisiol dwyieithog i Brofiadau Cyntaf dosbarth cyfan mewn samba, pBuzz, ukulele a mwy. Maen nhw yn cefnogi pob disgybl i archwilio a mwynhau cerddoriaeth. Mae perfformiadau byw ar gael, gan gynnwys y band poblogaidd ‘Gwnewch Sŵn’, sy’n helpu i ddod â cherddoriaeth yn fyw mewn ysgolion ac i bobl ifanc.

Mae llwybrau cynnydd yn cael eu cefnogi drwy ystod eang o ensemblau ledled siroedd Dinbych, Wrecsam a Chonwy, gan gynnwys corau sirol a rhanbarthol, cerddorfeydd, grwpiau taro a bandiau roc a pop. Mae disgyblion hefyd yn derbyn cefnogaeth wedi’i deilwra ar gyfer cyrsiau TGAU, Safon Uwch a BTEC Cerddoriaeth. Maen nhw hefyd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau a pherfformiadau rhanbarthol – gan adeiladu hyder cerddorol a chymdeithasol.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn arwain ar ddarpariaeth gynhwysol gan ganolbwyntio ar les. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau cerddoriaeth lles yn ystod y gwyliau, cefnogaeth anghenion addysg ychwanegol, therapi cerdd – oll wedi eu darparu gan ymarferwyr cymwys. Mae darpariaeth hefyd wedi’i deilwra ar gyfer plant sy’n cael eu dysgu adref a’r rhai o gefndiroedd bregus. Mae grantiau diweddar wedi galluogi mwy o fynediad at offer addasol a darpariaeth i ddisgyblion ag awtistiaeth.

Er mwyn cefnogi ysgolion ac athrawon, mae’r gwasanaeth yn darparu adnoddau dysgu pwrpasol a datblygiad proffesiynol. Mae partneriaethau hefyd yn allweddol i gyflawni a chreu effaith gadarnhaol, gan gynnwys gyda BBC NOW, New Sinfonia, Cyngor Celfyddydau Cymru, a grwpiau cymunedol fel City of Wrexham Brass Band, Côr Nant Clwyd, a’r Ryder Academi.

Manylion Cyswllt

denbighshiremusic.cymru/

01745 813542

  • Wyn Pearson, Rheolwr

Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych
Uned 1
Spencer Trading Estate
Dinbych,
Sir Ddinbych
LL16 5TQ