

Mae Cerdd Cydweithredol Dinbych a Wrecsam yn cyflwyno addysg a phrofiadau cerddoriaeth eang a chynhwysol. O wersi offerynnol a lleisiol dwyieithog i Brofiadau Cyntaf dosbarth cyfan mewn samba, pBuzz, ukulele a mwy. Maen nhw yn cefnogi pob disgybl i archwilio a mwynhau cerddoriaeth. Mae perfformiadau byw ar gael, gan gynnwys y band poblogaidd ‘Gwnewch Sŵn’, sy’n helpu i ddod â cherddoriaeth yn fyw mewn ysgolion ac i bobl ifanc.
Mae pob ysgol gynradd yng Nghonwy yn cael cynnig Profiadau Cyntaf mewn cerddoriaeth, gan roi cyfle i ddisgyblion archwilio a darganfod offerynnau fel ukalele, drymio Affricanaidd, cit samba, llais, a bod yn DJ. Fel arfer, mae’r ddarpariaeth yma ar gyfer blwyddyn 3, gyda sesiynau 45 munud dros 5–6 wythnos, ac yn ymestyn i ysgolion llai lle bo’n briodol.
Er mwyn ehangu mynediad at gerddoriaeth mae rhaglenni amrywiol wedi’u datblygu fel Gwnewch Sŵn, Gresford i’r Goleuni, a Slumbersaurus. Mae’r rhain yn rhoi cyfleoedd perfformio a gweithdai gyda BBC NOW, New Sinfonia a cherddorion proffesiynol.
Mae amrywiaeth o ensemblau’n rhedeg yn wythnosol, gan gynnwys cerddorfeydd, bandiau, grwpiau pop, Clwb GIG yn Llandudno, ac ensemble lleisiol. Mae cerddorfa ac ensemblau ychwanegol yn Ysgol Dyffryn Conwy hefyd yn rhoi cyfleoedd perfformio i ddisgyblion.
Mae’r Gwasanaeth yn gweithredu prosiect Cerddorfa Agored mewn ysgol arbennig, gan ddarparu therapi cerdd a defnyddio Charanga fel adnodd dysgu. Mae rhaglen Cefnogaeth Cwricwlwm yn cynorthwyo athrawon cynradd i gynnwys cerddoriaeth mewn gwersi, ac mae cyrsiau cyfansoddi yn helpu disgyblion TGAU greu a rhannu eu gwaith cerddorol.

Manylion Cyswllt
conwymusic.cymru/01492 685497
- Rhianwen Tonon, Rheolwr
Cerdd Cydweithredol Conwy
Uned 1
Spencer Trading Estate
Dinbych,
Sir Ddinbych
LL16 5TQ