Gwasanaeth Cerdd RhCT

Manylion Cyswllt

Mae Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf wedi cyflwyno’r rhaglen Profiadau Cyntaf yn llwyddiannus i bob disgybl Blwyddyn 3 ers dwy flynedd ac mae bellach hanner ffordd trwy’r trydydd cylch. Mae’r prosiect wedi ehangu gan gynnig rhaglenni hirach mewn mwy o ysgolion, gyda disgyblion yn mwynhau profiadau ymarferol mewn llinynnau, pres, ukulele, pBuzz, canu, recorder ac offerynnau taro.

I gefnogi tegwch mynediad, mae’r fenter ‘Endangered Species’ yn cynnig gwersi am ddim fesul achos i ddisgyblion na all eu teuluoedd fforddio costau addysg gerddorol draddodiadol. Mae hyn yn sicrhau nad yw rhwystrau ariannol yn atal pobl ifanc rhag cychwyn neu barhau ar eu taith gerddorol.

Mae llwybrau gyrfaol a phrofiadau cerddorol byw hefyd yn cynyddu yn y sir, gyda disgyblion yn elwa ar weithdai a pherfformiadau sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â sefydliadau fel NYJO, Trac Cymru, The Benedetti Foundation, BBC NOW, Live Music Now, yr Eisteddfod Genedlaethol a chwmnïau lleol amrywiol. Mae’r cyfleoedd hyn yn cysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â byd ehangach o gerddoriaeth a’r diwydiannau creadigol.

O ganlyniad, mae Rhondda Cynon Taf wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am wersi offerynnol, gyda niferoedd yn codi o tua 660 disgybl yn 2022 i bron 1,500 ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon – arwydd clir o effaith barhaol y rhaglenni hyn.

Manylion Cyswllt

www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SchoolsandLearning/Music/Musicalinstrumentandvocaltuition.aspx

01443 744017

  • Aeddan Williams – Arweinydd

Campws Cymunedol Gartholwg
Heol St Illtud
Pentre'r Eglwys
Pontypridd
CF38 1RQ