

Mae Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn yn gwmni elusennol sy’n gwasanaethu 96 o ysgolion yng Ngwynedd. Mae’n cynnig gwersi offerynnol a lleisiol un-i-un, gweithdai unigol, gwaith torfol dosbarth, cyngherddau byw gan gerddorion proffesiynol, gan gynnwys y band tiwtoriaid poblogaidd a llawer mwy. Mae tîm o diwtoriaid talentog yn cyflawni’r gwaith yma i gyd.
Mae rhaglen allgyrsiol lwyddiannus ar gael ac yn cynnwys ensemblau offerynnol; cerddorfa ieuenctid, bandiau pres, côr sacsoffon, côr telyn, ensemble chwythbrennau ynghyd â pharti cerdd dant a gwerin. Mae nifer o’r ensemblau yma yn enillwyr cenedlaethol.
Mae’r cwmni sioe gerdd yn bodoli ers 2023 ac yn denu tua 70 o ddisgyblion uwchradd i ddatblygu sgiliau actio, dawnsio a chanu drwy baratoi perfformiadau o sioeau cerdd gwreiddiol newydd yn y Gymraeg gan awduron fel Lowri Mererid, Mared Llywelyn a Hywel Pitts.
I weithredu’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth rydym yn falch iawn o’n rhaglen Profiadau Cyntaf sydd wedi bod yn cyflwyno ystod eang o weithgareddau yn cynnwys canu, ukuleles, offerynnau taro, allweddellau, cerddoriaeth gwerin, a hyd yn oed sgiliau DJ a thechnoleg cerdd a chlocsio!
Yng Ngwynedd, mae’r Gwasanaeth Cerdd yn gweithio’n agos iawn gyda phartneriaid lleol, fel Canolfan Gerdd William Mathias, NEW Sinfonia a Codi’r To sydd sicrhau bod hyn yn oed mwy o weithgareddau cyffrous ac arloesol yn cael eu cynnal yn yr ysgolion ar gyfer disgyblion y sir.


Manylion Cyswllt
www.cerdd.com01286 685283
- Tudur Eames – Rheolwr
- 01286 683289
- tudur@cerdd.com
Uned 21–23
Galeri
Caemarfon
Gwynedd
LL55 1SQ