Croesawu sylwadau y Llywodraeth am y berthynas rhwng lles a’r celfyddydau

28/05/2026

Braf oedd croesawu sawl aelod o Llywodraeth Cymru i’n Ystafell Athrawon yr wythnos hon yn ystod Eisteddfod yr Urdd, gan gynnwys Swyddfa’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth, a’r Dirprwy-Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Trydyddol Cefin Campbell – Sir Gaerfyrddin.

Rydyn ni fel Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol hefyd yn croesawu sylwadau diweddar y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan – Plaid Cymru AS, oedd yn adnabod cyfraniad y celfyddydau at ein lles ni fel cenedl, a bod gan y llywodraeth newydd gynlluniau i weithio ‘ar draws y sector’ gan adnabod fod angen llwybrau clir a chyllid teg ar hyd y system.

Rydyn ni fel Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yn croesawu’r cyfeiriad polisi yma a breichiau agored. Rydyn ni’n cytuno, ac yn gweld fod angen i ni adnabod y cysylltiadau pwerus rhwng addysg, diwylliant a iechyd a’r manteision cyffrous a ddaw yn sgil hynny.

Ein neges ni felly ydy ein bod ni’n barod. Mae’r seiliau yn eu lle, rydyn ni’n deall yr heriau i fanylder, ac mae’r egni ganddom ni, fel un endid, i symud ymlaen gyda’r un nod clir: sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i brofi, dysgu a ffynnu drwy gerddoriaeth.