


Wrth i 2025 ddirwyn i ben, hoffai Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru ddiolch o galon i’r holl rieni, gofalwyr a thiwtoriaid sydd wedi cefnogi ac arwain cerddorion ifanc drwy gydol y flwyddyn. Mae eich ymroddiad wedi bod yn hanfodol wrth feithrin talent ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o berfformwyr.
Eleni gwelwyd carreg filltir bwysig gyda chyflwyno buddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru, gan sicrhau bod addysg gerddoriaeth yn parhau’n hygyrch ac yn gynaliadwy ledled Cymru am y 3 mlynedd nesaf. Mae’r buddsoddiad hwn wedi cryfhau ein gallu i gynnig cyfleoedd o safon uchel i bob plentyn, beth bynnag yw eu cefndir.
Rydym hefyd yn dathlu llwyddiannau rhagorol ein gwasanaethau cerdd, sydd wedi dod â cherddoriaeth yn fyw mewn cymunedau ar draws y wlad. O ensemblau ysgol i gerddorfeydd rhanbarthol, mae eu gwaith yn parhau i gyfoethogi bywydau ac i feithrin diwylliant cerddorol bywiog.
Mae ein Bwrdd Partneriaid yn mynd o nerth i nerth, gan sicrhau bod cymaint o lwybrau addysg gerddoriaeth â phosibl yn cael eu cysylltu. Ac felly, pan and oes modd ymestyn yr arian mae’r drafodaeth yn werth pob ceiniog. Hoffen ni ddiolch o waelod calon i’n holl bartneriaid am y cyd-weithio llawen, adeiladol, sydd wir yn gwneud gwahaniaeth ar draws y wlad.
Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni ein gorau i sicrhau bod 2025 yn flwyddyn o gynnydd, angerdd a pherfformiadau arbennig. Gadewch i ni anelu at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn 2026!