
Cerddorfa Gymreig y BBC yn chwarae ‘Ochr yn Ochr’ gyda disgyblion
Mae cerddorion ifanc o 10 sir yng Nghymru wedi mwynhau chwarae gyda cherddorion proffesiynol o Gerddorfa Gymreig y BBC (BBC NoW) mewn cyngherddau a gweithdai yn ddiweddar. Cafodd 4 gweithdy ochr yn ochr a 7 cyngerdd eu cynnal gyda disgyblion o Geredigion, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell Nedd-Port Talbot, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd a’r Fro yn ystod Mai.
“Roedd Cerddorfa Gymreig y BBC yn llawn cyffro i barhau i weithio gyda’r staff a’r myfyrwyr cerddorol gwych yng Nghymru ar y daith hon” meddai llefarydd. “Mae ein cerddorion wrth eu boddau yn gweithio’n uniongyrchol gyda myfyrwyr, ac mae’r daith hon yn ein galluogi i weld o agos fod yr angerdd am greu cerddoriaeth a datblygu llwybrau proffesiynol i bobl ifanc yng Nghymru yn gryf.

Roedd Addysg Gerddorol Caerdydd a’r Fro yn un o’r gwasanaethau cerddoriaeth awdurdod lleol i weithio gyda BBC NoW fel rhan o’u taith Ysgolion a Gwasanaethau Cerddoriaeth 2025.
Fe wnaeth y cerddorion ymweld âg Ysgol Plasmawr, Caerdydd, i weithio gyda’u cerddorfa o 20 o bobl ac Ysgol Uwchradd Llanishen lle cafodd 42 o ddisgyblion (a staff!) berfformio gyda nhw, gan gynnwys 9 trombonydd. Dim ond eleni y gwnaeth llawer o’r disgyblion bl7 ddechrau chwarae eu hofferynnau, felly roedd hwn yn brofiad gwych iddyn nhw. Cafodd plant o ysgol gynradd leol gyfle i ymuno â’r gerddorfa hefyd.
‘Ysbrydoli’ cerddorion ifanc
Ym mhob un o’r ysgolion, fe berfformiodd cerddorion y BBC ochr yn ochr â’r myfyrwyr ysgol, gan eu helpu i ddysgu eu rhannau, a chafodd rhai o’r myfyrwyr gyfle hyd yn oed i arwain y gerddorfa, ar ôl rhai gwersi gan Ellie, arweinydd y gerddorfa. Cafodd y disgyblion hefyd eu hannog i ofyn cwestiynnau i’r cerddorion am eu gwaith a’u llwybrau gyrfa.
Ar ddiwedd y bore perfformiodd yr gerddorfa unedig ddau ddarn – ‘Mars’ a ‘In the Hall of the Mountain King’ – i fyfyrwyr a staff o’r ysgol. Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro a BBC NoW yn gobeithio bod hyn wedi ysbrydoli unrhyw fyfyrwyr nad ydyn nhw eto’n chwarae mewn ensemble i gymryd rhan yn eu hensemblau ysgol a sirol.

Dyma ychydig o adborth o’r sesiynnau yng Nghaerdydd:
Mr Lake (Ysgol Plasmawr)
Mae’n wych pan bod cyfleoedd mor fawr a hyn yn cael eu cynnig i ysgolion lleol, ac am brofiad oedd hwn i’n disgyblion. Roedd hi’n anghredadwy cael cymaint o gerddorion proffesiynol yn cynnal gweithdy ac yn gweithio gyda’n disgyblion. Mwynhaodd y disgyblion y diwrnod yn llwyr, ac roedd y cyffro oedd ganddyn nhw wrth adael y sesiwn mor braf i’w weld. Mae’r gweithdy hwn wedi annog ein disgyblion i gymryd mwy o ran yn ein grwpiau cerdd, a’r gerddorfa sy’n cael eu rhedeg gan y sir.
Nel
Nes i wirioneddol fwynhau’r profiad. Nid yn unig o’dd e’n gyfle i chwarae gyda cherddorion profesiynnol, ond roedd yn gyfle hefyd i ni siarad gyda nhw ac i wrando ar eu profiadau nhw o chwarae mewn cerddorfa
Laila
Nes i wir fwynhau’r sesiwn oherwydd oedden ni ‘di cael profiad arbennig, a oedden ni dy ddysgu ddau darn o gerddoriaethmewn un ddiwrnod! Rydw i wir eisiau gwneud y brofiad yna eto. Diolch Mr Lake a’r gerddorfa am ddiwrnod anhygoel.
Alice
Roedd yn brofiad arbennig ac gymaint o hwyl i chwarae a dysgu cerddoriaeth gyda phawb. Diolch i BBC orchestra ac i Mr lake am roi sesiwn cerddoriaeth arbennig i ni.

Mr Grimstead (Ysgol Uwchradd Llanishen)
Roedd y myfyrwyr yn gyffro i gyd yn y prynhawn pan oedden nhw’n siarad am y profiad. A doeddwn i ddim yn gallu bod yn hapusach o allu cynnwys rhai myfyrwyr cynradd a’n myfyrwyr Prosiect Blwyddyn 7 – mae hynny’n gyngerdd cyntaf ysgubol dros ben!
Mimi McIver (Bl 9) – Roedd e mor gyffrous ac yn lot o hwyl, nes i wir fwynhau chwarae gyda’r arbenigwyr. Roeddwn i wrth fy modd, ac ro’n nhw mor garedig ac o gymorth enfawr.
Fin De’Ath (bl 11) – Fe gawson ni gymaint o hwyl yn chwarae gyda cherddorion profesiynnol. A ges i’r cyfle i arwain hefyd – roedd e’n wych!